CANLYIADAU
Eryri Eithriadol
Parc Cenedlaethol sy’n ddiwylliannol gyfoethog gydag economi werdd ffyniannus, profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf a chyfrannwr mawr at les ein cenedl.
Erbyn 2045 bydd Eryri yn parhau i fod yn dirwedd warchodedig ac sy’n esblygu, wedi’i diogelu a’i gwella i ddarparu amgylchedd naturiol a hanesyddol cyfoethog, amrywiol a gwydn; darparu buddion lles yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

AMGYLCHEDD ERYRI
Canlyniad hirdymor:
Rydym yn gofalu’n llwyddiannus am ein hasedau naturiol a hanesyddol a’n hamgylchedd trawiadol.
Canlyniadau Allweddol
A1. Cyflawnir egwyddorion Twristiaeth Gynaliadwy
A2. Cynnal a gwella bioamrywiaeth a chynyddu cadernid ecosystemau.
A3. Rydym yn barod am effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn lleihau ein hôl troed carbon.
A4. Mae Eryri ar y blaen yn rhyngwladol wrth fynd i’r afael â lledaeniad rhywogaethau goresgynnol a phlâu a chlefydau sy’n effeithio ar rywogaethau brodorol.
A5. Mae cymunedau, busnesau ac ymwelwyr yn chwarae rhan weithredol wrth ofalu am dirweddau, cynefinoedd, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol.
A6. Mae Eryri yn enghraifft flaenllaw yng Nghymru o sut i ofalu am a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol a’r amgylchedd hanesyddol.
A7. Mae ein Rhinweddau Arbennig wedi’u diogelu’n dda.
IECHYD A LLES ERYRI
Canlyniad hirdymor:
Mae Eryri yn darparu cyfoeth o gyfleoedd i ddysgu a darganfod ac ar yr un pryd, gwella llesiant ein cenedl
Canlyniadau Allweddol
B1. Mae’r Parc Cenedlaethol yn cael effaith bositif ar lesiant.
B2. Gall preswylwyr ac ymwelwyr ddefnyddio amrywiaeth o lwybrau yn y Parc Cenedlaethol gyda golwg ar wella iechyd y corff a’r meddwl
B3. Mae ein Rhinweddau Arbennig yn cael eu cydnabod a’u deall yn eang
B4. Cyflawnir opsiynau cynaliadwy ar gyfer parcio a chludiant.
B5. Mae ein cyfleusterau i ymwelwyr o ansawdd uchel ac yn sensitif i’r dirwedd.
CYMUNEDAU AC ECONOMI ERYRI
Canlyniad hirdymor:
Mae Eryri yn lle gwych i fyw, datblygu a gweithio ynddo.
Canlyniadau Allweddol
C1. Mae iaith, diwylliant a threftadaeth Eryri yn cael eu dathlu, eu cefnogi a’u cryfhau.
C2. Mae swyddi a chyfleoedd yn annog pobl i aros yn yr ardal.
C3. Rydym yn gweithredu atebion ar gyfer tai fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu
C4. Cefnogir cymunedau lleol i ffynnu ym mhob agwedd ar lesiant
Mae Eryri yn lle gwych i fyw, datblygu a gweithio ynddo.
Ysgrifennwyd y cynllun hwn gyda cyflawni'n effeithiol ar flaen y gad o'n meddyliau.

GWELEDIGAETH
Sut Barc Cenedlaethol yr hoffwn ni ei weld

Canlyniadau hirdymor
Y pethau ehangach sydd angen digwydd er mwyn cyflawni’r Weledigaeth
25 mlynedd

canlyniadau
pethau penodol sydd angen digwydd er mwyn cyflawni’r deilliannau hirdymor.
5 mlynedd

Polisïau
Yr hyn y bydd angen i ni ei wneud er mwyn cyflawni’r deilliannau
5 mlynedd

Camau Gweithredoedd
Prosiectau penodol, amserlen, sefydliadau arweiniol, targedau
5 mlynedd

Dangosyddion
Offer i fesur a monitro cynnydd.
Erbyn 2045 bydd Eryri yn parhau i fod yn dirwedd warchodedig ac sy'n esblygu, wedi'i diogelu a'i gwella i ddarparu amgylchedd naturiol a hanesyddol amrywiol a gwydn; darparu buddion lles yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.