> CYNLLUN PARTNERIAETH

Mae Cynllun Eryri yn adlewyrchu newid sylweddol yn yr ymagwedd a gymerwyd gan Awdurdod y ParcCenedlaethol er mwyn creu cynllun ar gyfer rheoli Eryri. Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu yn wir ysbryd partneriaeth.

Rydym wedi gweithio’n agos i ddatblygu Cynllun Eryri nid yn unig gyda’r sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldebau statudol, ond gyda’r holl sefydliadau sy’n ymwneud mewn rhyw ffordd â gofalu am Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy weithio gyda’n gilydd credwn y gallwn gyflawni pethau gwych.

Pam fod angen Cynllun y Parc Cenedlaethol arnom ni?

Mae’r Parc Cenedlaethol yn lle arbennig iawn, ac mae rheoli’r ardal ddaearyddol enfawr hon (823 milltir sgwar), a’r galw amrywiol a niferus arni sy’n gwrthdaro yn mynnu ein bod yn ymdrin â hyn yn ofalus ac yn ymroddi llawer iawn o sylw i’r mater. Dyna pam y mae angen y Cynllun hwn arnom. Mae’n nodi sut y byddwn ni a’n partneriaid yn cydweithio i gydbwyso’r galw sy’n gwrthdaro yn ofalus, a diogelu’r ardal a’r Rhinweddau Arbennig rhag niwed. Mae’n nodi sut y byddwn i gyd yn cydweithio gyda’n gilydd i gyflawni ‘Pwrpasau’r Parc Cenedlaethol’.

Er bod y Cynllun yn ddogfen statudol – dogfen sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith drwy gyfrwng Deddf yr Amgylchedd 1995 – rydym wedi ysgrifennu’r Cynllun hwn gydag ymdeimlad dwfn o ddyletswydd ac angerdd tuag at warchod a gofalu am Eryri a’i chymunedau.

Beth yw Parc Cenedlaethol?

Mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd arbennig o’n gwlad sy’n cael eu diogelu am bod ynddynt gefn gwlad hardd, am eu bywyd gwyllt a’u treftadaeth ddiwylliannol. Nhw yw tlysau a thrysorau naturiol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Dyma’r enghreifftiau mwyaf trawiadol a phrydferth o harddwch naturiol garw.Maent yn cwmpasu ein cynefinoedd a’n bywyd gwyllt prinnaf a mwyaf arbennig. Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau byw, sy’n anadlu – lle mae rhyngweithiad treftadaeth rhwng pobl a natur yn rhan o’r hyn sy’n gwneud yr ardaloedd hyn mor arbennig. Mae pobl a’u traddodiadau yn rhan o’r tirweddau hyn. Maent yn lleoedd i’w mwynhau, i ddod o hyd i heddwch, i ddod o hyd i antur ac i wneud i ni deimlo’n fyw.

PWY YW PWY?

O fewn Cynllun Eryri, yn ogystal â Fforwm Eryri, mae sawl Partneriaeth arall yn bodoli sy’n gweithio tuag at yr amcanion penodol, sef:

Partneriaeth Yr Wyddfa: Gwirfoddolwyr a Chymdeithas Marchnata Betws y Coed; Cyfoeth Naturiol Cymru; Cymdeithas Eryri; FUW; CLA; Partneriaeth Awyr Agored; Cyngor Gwynedd; Cyngor Conwy; Ymddiriadolaeth Genedlaethol; Cymdeithas Twristiaeth Beddgelert; Eryri Bywiol; Hwb Eryri; Rheilffordd Yr Wyddfa; Tîm Achyb Mynydd; NFU; Bukeley Estates; YHA Pen y Pass.
www.snowdonpartnership.co.uk

Carneddau Landscape Partnership 2020 – 2025, lead partner SNPA: Core Partners: Cadw, National Trust, Natural Resources Wales, Snowdonia Society. Delivery partners: Abergwyngregyn Regeneration Company; Bangor University (Henfaes Research Centre, University Farm); British Mountaineering Council; Conwy Borough County Council (Conwy Culture Centre); Cyngor Gwynedd; Cymdeithas Enwau Lleoedd / Welsh Place-name Society; Gwynedd Archaeological Trust; Outdoor Partnership; Partneriaeth Ogwen; Penmaenmawr Museum and Historical Society; Plantlife Cymru; PONT Cymru; RSPB; Snowdonia Active; University of Sheffield (Department of Archaeology); Carneddau Pony Association; Farmers’ Union Wales; National Farming Union Wales.

www.eryri.llyw.cymru/looking-after/carneddau-partnership

Partneriaeth Cwm Idwal, Prif bartner YG: SNPA & NRW
www.cwmidwal.cymru/

UE Prosiect Coedwigoedd Glaw LIFE, Prif bartner APCE: Llywodraeth Cymru, RSPB Cymru a Choed Cadw.
www.eryri.llyw.cymru/looking-after/life-celtic-rainforests-project

Partneriaeth Natur Lleol, Prif bartner APCE: YNGC; Llais y Goedwig; Cadw Cymru’n Daclus; Y Dref Werdd; Cymdeithas Eryri; LNP Cymru; GIG; BTO; WCVA; Hafal, Cyngor Gwynedd; CNC; RSPB; Snowdonia Active; Plant Life; Bywyd Gwyllt Glaslyn; Coed Cadw; FSC / Rhyd y Creuau; Baileys and Partners; Red Squirrel Survival Trust; Cofnod; HGC / NWP; Coed Lleol Small Woods Wales; Butterfly Conservation; CADW; Mantell Gwynedd; LNP Conwy.
www.facebook.com/natureryri/