RHA RHIF.3
bywiogrwydd yr iaith gymraeg
Mae bywiogrwydd y Gymraeg fwyaf amlwg yn Eryri oherwydd mae’n parhau i fod yn ddewis iaith mewn llawer o amgylcheddau cymdeithasol a phroffesiynol. Mae’n amlwg mewn enwau lleoedd lleol, y bywyd gwyllt a’r hanes sydd ynghlwm iddi ac felly mae’n rhan annatod o natur unigryw treftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal.
Mae Eryri yn rhan o hen deyrnas Gwynedd ac mae’n gadarnle i’r iaith Gymraeg.
Y Gymraeg yw un o’r ieithoedd byw hynaf yn Ewrop Mae cysylltiad agos rhwng Llydaweg a Chernyweg gyda’r Wyddeleg, Gaeleg Yr Alban a Manaweg yn deillio o’r un iaith yn wreiddiol. Mae’n iaith gynhenid i Ynysoedd Prydain, sydd wedi gorfod cystadlu â’r Lladin, Normanaidd-Ffrangeg a Saesneg. Er ei bod wedi dirywio ar rai adegau yn ein hanes, mae’r Gymraeg wedi goroesi a hynny’n aml yn erbyn y llanw a bellach mae ganddi statws warchodedig drwy gyfrwng deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o fanteision ‘ymennydd dwyieithog’; gyda chydnabyddiaeth ehangach bod y Gymraeg wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud Cymru ac Eryri yn unigryw a’i bod yn ased amhrisiadwy i’w meithrin ar gyfer y genedl gyfan.
Mae’r iaith Gymraeg, sef iaith arweinwyr chwedlonol fel Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr, wedi bod ac yn parhau i fod yn rhan annatod o’n hunaniaeth ac wrth wraidd bywyd teuluol bob dydd. Mae iaith a diwylliant Cymru wedi parhau i esblygu ac mae bellach yn rhan annatod o ddiwylliant newydd, cynhwysol, bywiog a chyfoes. Mae gwyliau celfyddydol, cerddoriaeth, bwyd a diod yn sbarduno hynny, yn enwedig ymysg y genhedlaeth iau sy’n cofleidio manteision gweithio a chymdeithasu’n amlieithog.
Mae hanes a diwylliant ymhobman yn Eryri ac mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan 58% o’r boblogaeth gyda’r ganran mor uchel â 85% mewn rhai cymunedau.
Os ydych chi’n ymweld â’r ardal fe fyddwch yn sicr o weld, clywed a hefyd cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
>
Mae’r Gymraeg yn iaith frodorol yn Ynysoedd Prydain ac fe ellir dadlau mai hon yw’r iaith BYW hynaf yn Ewrop.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel Iaith gynhenid gan UNESCO.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad â’i haddysgu mewn rhannau o Batagonia, yr Ariannin.
- Mae ysgolion Gwynedd a Chonwy yn paratoi plant i fyw mewn cymdeithas gwbl dwyieithog
- Yn Neddf Uno Harri VIII ym 1536, fe ymgorfforwyd Cymru yn gyfreithiol yn Lloegr gyda’r Saesneg yn unig iaith swyddogol iddi.
- Roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 yn rhoi’r hawl i bobl gyflwyno tystiolaeth yn y Gymraeg yn Llysoedd Cymru ac i gael ffurflenni swyddogol yn Gymraeg am y tro cyntaf.