Yr ymdeimlad cadarn o gydlyniant cymunedol, a bywiogrwydd sy’n cyfuno i roi ymdeimlad cryf o le.
Mae disgrifio ymdeimlad o le, a pherthyn, yn dasg anodd, ond efallai mai’r ffordd orau yw disgrifio emosiwn cadarnhaol a deimlir wrth fod yn rhan o gymuned sy’n meddu ar ymdeimlad cryf ohoni’i hun. Mae harddwch a natur barhaol Eryri wedi cael eu cerfio trwy hanes gan luoedd cyfunol natur a gweithgaredd dynol.
Mae ein cymunedau wedi cael eu ffurfio a’u siapio gan eu hamgylchedd gwydn a hardd, ac rydyn ni’n cynrychioli un o gadarnleoedd olaf trigolion Oes yr Iâ gwreiddiol Prydain. Bu cryn newid o du dylanwadau o fewn y Parc a thu hwnt. Mae’r llif hwn yn parhau i fod yn hanfodol wrth ddiffinio, arallgyfeirio a chryfhau hunaniaeth ein cymunedau yn Eryri.
Mae 58% o drigolion yn Eryri yn siarad Cymraeg o’i gymharu â 21% yng Nghymru gyfan.
Am unrhyw wybodaeth pellach am y prosiect Eryri 70 cysylltwch a ni drwy lenwi y ffurflen yma, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. Fel arall gallwch anfon e-bost atom.
Neu gallwch anfon e-bost atom eryri70@llyw.eryri.co.uk