RH RHIF.9

CYNEFINOEDD A RHYWOGAETHAU RHYNGWLADOL BWYSIG

Mae 17 Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn Eryri; mwy nag mewn unrhyw barc cenedlaethol arall yng Nghymru a Lloegr; a 56 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r bioamrywiaeth aruthrol yn adlewyrchu amrywiaeth y dirwedd, y ddaeareg, yr hinsawdd a’r dulliau rheoli tir. Mae cyfoeth planhigion ac anifeiliaid yn sylfaenol i hanes, diwylliant, iaith, economi a lles parhaus yr holl bobl sy’n byw yn yr ardal ac yn ymweld â hi.

Mae nifer dibendraw o dirluniau a morweddau yn bodoli o fewn ardal gymharol fach, ac mae hyn yn cyfuno i ddarparu amrywiaeth o gynefinoedd, cynefinoedd sy’n croesi-drosodd a choridorau bywyd gwyllt. Mae hyn yn gwneud Eryri yn gyfoethog iawn o ran bioamrywiaeth. Mae’r llu o ffawna a fflora hyn yn cael eu bwydo gan dywydd mwyn, llaith yn ysgubo i mewn o’r Iwerydd, a chanlyniad hyn yw miloedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid

Mae rhai rhywogaethau a chynefinoedd yn genedlaethol a rhyngwladol bwysig, er enghraifft, y rhai sy’n weddill o Oes Iâ ddiwethaf ac sy’n rhoi cipolwg ar y cynefinoedd lled-Arctig. Eryri yw’r pwynt mwyaf deheuol ym Mhrydain ar gyfer llawer o rywogaethau o’r fath. Ymysg y planhigion a’r anifeiliaid mwyaf prin ac adnabyddus a ddeuir o hyd iddynt yn y copaon uchel, mae Lili’r Wyddfa yn unigryw, yn ogystal â Chwilen yr Wyddfa neu Chwilen Ddeiliog yr Enfys.

Mae gennym dirwedd ucheldirol syfrdanol o lwyfandiroedd, clogwyni, a sgrïau, dyffrynnoedd afonydd coediog a llynnoedd. Mae rhostiroedd, cynefinoedd clogwyni alpaidd a sgri yn gyffredin ac mae’r rhain yn cynnal y grŵp unigryw o blanhigion arctig alpaidd uwch ac is. Mae’r rhain hefyd yn cynnwys gweunwellt y mynydd (Poa alpina), y tormaen gopog, tormaen alpaidd, eurinllys alpaidd, coed alpaidd alwminiwm a phlwycin alpaidd. Mae mwsoglau a llysiau’r afu yn ffynnu yma o ganlyniad i’r lleithder cymharol, ac yn y mannau helaeth hynny o sgri creigiau igneaidd, deuir o hyd i fryoffytau a chennau, gyda rhywogaethau planhigion cysylltiedig fel y mwsogl ffynidwydden, y rhostwellt llosg a Cornicularia narmoerica hefyd

Yn ogystal â’i hafonydd a’i llynnoedd rhewlifol, mae gennym hefyd nifer sylweddol o lynnoedd mynydd bach wedi’u gwasgaru ar hyd a lled yr ucheldiroedd. Mae poblogaethau mawr o’r llyriad dŵr arnofiol prin, sy’n tyfu mewn dŵr llonydd ac mae angen amodau penodol i oroesi. Mae’r ardal hefyd yn gartref i’r Euphrasia cambrica a E. rivularis endemig; sy’n ddim ond ymysg nifer o’r rhywogaethau blaenoriaeth a nodwyd yn y Parc.

>

Cydnabuwyd Eryri fel un o 165 o Ardaloedd Planhigion  Pwysig ym Mhrydain.

  • Mae tua 20 y cant o Barc Cenedlaethol Eryri wedi’i ddynodi’n arbennig gan gyfraith ym Mhrydain ac Ewrop er mwyn gwarchod ei fywyd gwyllt unigryw.
  • Mae Lili’r Wyddfa yn blanhigyn cain, arctig-alpaidd sydd â blodau gwyn hardd a dail tebyg i laswellt. Fe’i cofnodir yn rheolaidd fel un sy’n tyfu’n uchel ym mynyddoedd Eryri ond ni chofnodwyd ei fod yn bodoli yn unman arall ym Mhrydain.
  • Mae 18% o Barc Cenedlaethol Eryri yn goediog.
  • Mae dau safle Ramsar yng Nghwm Idwal a Llyn Tegid, sy’n wlyptiroedd Rhyngwladol Bwysig.