RH RHIF.8
Daeareg byd enwog
Daeareg gymhleth, amrywiol ac adnabyddus, hanfodol wrth ddylanwadu ar ddisgyblaethau daeareg a daearyddiaeth yn rhyngwladol.
Mae tirwedd Eryri a natur a’r gweithgareddau ynddi yn seiliedig ar ei hanes daearegol.Mae’n stori dditectif gymhleth o gyfandiroedd gwrthdrawiadol, llosgfynyddoedd, ffurfio mynyddoedd, newidadau yn lefel y môr a rhewlifiant a fu oll yn rhan o greu Eryri fel ag y mae heddiw
Mae’n anodd dadansoddi ein golygfeydd mynyddig yn gyfan gwbl, a deall sut yn union y crëwyd tirwedd syfrdanol fel hwn. Fodd bynnag, gydag arweinydd gwybodus neu hyd yn oed arweinlyfr neu ‘app’ da, gallwn ddechrau dadlennu a deall pam a sut
y datblygodd y dirwedd dros filoedd o flynyddoedd. Gallwn weld rhai o’r creigiau a grëwyd gan losgfynyddoedd neu ddyddodion gwaddodol. Gallwn ddysgu sut i ddehongli rhinweddau a’r arwyddion i ddeall sut yr adeiladwyd mynyddoedd a rhewlifau ar lawr gwlad … mae’r dystiolaeth o’n cwmpas pan fyddwch chi’n gwybod be’ i chwilio amdano!
Mae gweithgaredd Oes yr Iâ wedi gwneud llawer i ffurfio’r dirwedd yn Eryri. Fe wnaeth y rhewlifoedd a oedd ar eu hanterth 18,000 o flynyddoedd yn ôl sgrafellu dyffrynnoedd siâp U mawr mewn lleoedd felLlanberis a Nant Gwynant yn y gogledd a Thal y Llyn yn y de
Mae Eryri yn cyflwyno tirwedd amrywiol iawn sy’n cynnwys copaon mynyddoedd a chribau, dyffrynnoedd dwfn a llwyfandiroedd rhostirol. Mae’r creigwelyau daearegol yn cael eu tra arglwyddiaethu gan greigiau gwaddodol a folcanig Cambrian, Ordofigaidd a Silwraidd. Mae ardal fawr o dywodfeini a siâl Cambria, a adwaenir fel Cromen Harlech, yn sail i’r Rhinogydd ac yn ymestyn i’r dwyrain i Goed y Brenin ac i’r de tuag odre Cader Idris. Mae brasgreigiau gwaddod yn ffurfio rhai o’r copaon uchaf yn yRhinogydd a rhai o’r ffurfiannau creigiau hynaf ym Mhrydain
O amgylch Cromen Harlech, datblygodd canol- leoedd folcanig mawr ar wahanolgyfnodau yn ystod y cyfnod Ordofigaidd, a bu’r rhain yn ffrwyno llawer iawn o lafa a llwch sydd bellach wedi’i cadw mewn ardaloedd ucheldirol fel y Rhobell Fawr (705m) a Chader Idris (893m) yn y de ac ymhellach i’r gogledd o amgylch Yr Wyddfa (1085m) a’r Carneddau. Ynghyd â’r gweithgaredd folcanig hwn hefyd roedd ymwthiadau igneaidd eang a chyfansoddiad granitig a basaltig sydd bellach yn ffurfio rhinweddau nodedig, sy’n gwrthsefyll erydiad ar hyd a lled y dirwedd.
Bu cyfnod mawr o adeiladu mynyddoedd yn y cyfnod Defonaidd cynnar i ganolig
a chanlyniad hynny oedd creu’r llechi pwysig yn ardaloedd Bethesda, Llanberis, Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Chorris. Trawsnewidiodd y defnydd diwydiannol o lechi o ganol y 18fed i ganol yr 20fed ganrif dirlun yr ardaloedd hyn i adael etifeddiaeth o chwareli llechi a gweddillion mwyngloddio sy’n adnabyddus yn rhyngwladol.
Creodd gweithgarwch folcanig hynafol lawer o fathau o adneuon mwynau yn yr ardal ac mae mwyneiddiad copr, plwm a sinc yn nodwedd arbennig o ardal Eryri. Daeth y dyddodion hyn hefyd yn ganolbwynt i lawer o archwilio ac fe achosodd hynny i olion nodweddion gael eu gadael yn y dirwedd. Cloddiwyd manganîs o amgylch ochrau Cromen Harlech, ac fe gafwyd copr ac aur o wythiennau cwarts sy’n brigo tua’r gorllewin a’r gogledd o Ddolgellau. Gyda’i gilydd fe’i hadnabyddir fel llain aur Dolgellau, – profodd yr ardal fwyngloddio hon gyfnod euraidd mawr yn ystod hanner olaf y 19eg ganrif pan ddarganfuwyd dyddodion aur sylweddol ym mwyngloddiau Clogau a Gwynfynydd.
Mae hanes rhewlifol yr ardal wedi arwain at olygfeydd ucheldir cyfoethog ac ysblennydd iawn
a welwn heddiw, gyda dyffrynnoedd siâp U sydd wedi’u gor-ddyfnhau a achoswyd gan rewlifoedd yn ymestyn allan o graidd yr ucheldir i lawr llethrau a dyffrynnoedd fel Nant Ffrancon a Nant Peris . Mae yna gyfoeth o nodweddion clasurol megis cymoedd neu bentyrrau uchel, cribau sydd mor finiog ag ‘ymyl cyllell,’ llynnoedd argae marian, llinynnau rhewlif
Chwaraeodd Eryri ran allweddol yn natblygiad daeareg fel gwyddoniaeth ac mae’r tir heriol iawn wedi cael dylanwad mawr ar batrwm trafnidiaeth, ffermio, diwydiant, twristiaeth a diwylliant ledled yr ardal.
>

500 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd edrychiad Yr Wyddfa yn wahanol iawn… roedd ar wely’r môr, ac mae’r darnau o ffosilau cragen a ddarganfuwyd ar y copa yn brawf o hynny.
- Crib Goch yw’r grib finiog enwog ac fe’i crëwyd wrth i ddau ddyffryn crog rhewlifol gael eu creu gefn wrth gefn.
- Crib Goch yw’r grib finiog enwog ac fe’i crëwyd wrth i ddau ddyffryn crog rhewlifol gael eu creu gefn wrth gefn.
- roedd y gronynnau bach a greodd y garreg laid gyntaf a newidiodd i lechen drwy wasgedd dwys o blatiau tectonig gwrthdrawiadol, yn debygol o fod wedi cael eu dyddodi ar gyfartaledd o tua 0.1mm y flwyddyn .. byddai angen o leiaf 1 miliwn o flynyddoedd i greu 100 metr!