RH RHIF.5

Llonyddwch ac unigedd
- Ardaloedd heddychlon

Mae’n rhoi cyfle i bobl ddeall a mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn weithredol, tra’n cynnal ardaloedd o lonyddwch ac unigedd, gan hyrwyddo agweddau ar iechyd, lles a myfyrdod personol.

Y ddydiau yma, mae llawer ohonom yn byw mewn byd sy’n ffynnu ar fod yn brysur, yn gynhyrchiol ac yn orlawn o amserlenni. Rydym yn normaleiddio byw mewn diwylliant swnllyd ‘rownd y ril’. Mae technoleg yn golygu fod eraill yn gallu cysylltu â ni drwy’r adeg ac mae ein ‘dyfeisiau’ wastad wrth law, yn barod i ddarparu ffynhonnell gyson o wybodaeth, adloniant a mynnu ein sylw. Mae ein synhwyrau’n cael eu pledu’n rheolaidd. Mae cyfnodau o dawelwch neu ddistawrwydd sy’n digwydd yn naturiol yn rhywbeth sy’n gynyddol brin a gwerthfawr.

Mae bod ar eich pen eich hun neu gael amser a’r lle i fyfyrio a bod yn unig yn hanfodol er lles ein hiechyd meddwl. Mae treulio amser yn ymdrochi mewn natur yn cynnig llu o fanteision pellach. Profwyd ei fod yn cael effaith therapiwtig am ei fod yn lleddfu straen, mae’n adfer sylw a’r gallu i ganolbwyntio. Mae bod yn weithgar yn yr awyr agored hefyd yn cynnig heriau personol a all arwain at ddatrys problemau creadigol a chynyddu hunan hyder. Mae’n rhoi lle i bobl gamu’n ôl, pwyso a mesur problemau gyda meddwl clir, datrys materion anodd a rhoi eglurder i’n meddyliau, ein gobeithion a’n breuddwydion..

Mae llonyddwch yn dal i fodoli mewn sawl rhan o Eryri, yn ystod y dydd, yn ei mynyddoedd mawr, anghysbell a garw; ac yn ystod y nos, bydd yr awyr dywyll enfawr, ysbrydoledig yn cael ei datgelu. I ni ac i ymwelwyr, mae Eryri yn cynnig y ddihangfa berffaith, lle i anadlu ac adfer.

Nid yw cydnabod y buddion hyn yn beth newydd…“Thousands of tired, nerve-shaken, over civilised people are beginning to find out that going to the mountains is going home; that wildness is a necessity” (John Muir ‘Father of The National Parks’ 1838-1914).Mewn byd a ddylai fod yn gynyddol bryderus am ddatrys problemau a chynhyrchiant cynaliadwy, yna …

“It makes sense that meditation, and indeed any other state of enforced silence and solitude, can be a perquisite to creative thought and idea generation. Art-making is often linked to the pop-psychological notion of being “in the zone” – a sort of trance-like creative state analogous to that achieved through meditation, yoga, or other focusing pursuits that link the mind and body in a state of near silence.” (Emily Gosling – Creative Review 2018

Am filoedd o flynyddoedd, mae pererinion a bobl yn chwilio am ddealltwriaeth, goleuedigaeth ysbrydol, diogelwch a heddwch wedi teithio i a thrwy Eryri

>

Mae Eryri yn 823 milltiroedd2 o ran maint ac mae ganddi boblogaeth o tua 26,000 o bobl

Mae Llundain Fawr yn 607 milltiroedd 2 ac mae ganddi boblogaeth o tua 8,500,000 o bobl.

  • Mae Eryri yn Warchodfa Awyr Dywyll y Byd. Mae hon yn wobr fawreddog a roddir gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol i gyrchfannau dethol sydd wedi profi bod ansawdd eu hawyr nosol yn rhagorol a bod ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau
  • Llygredd sŵn. Dyma i chi beth rhyfedd! ... o bell, mae afon ewynnog sy’n rhuo ar ôl glaw trwm yn swnio’n debyg iawn i ffordd brysur bell! Fodd bynnag, mae natur (gan gynnwys ni ein hunain) wedi’i haddasu’n well o lawer i ymdopi â’r cyntaf o’r rhain