Tirweddau Hanesyddol

Mae'r berthynas newidiol rhwng pobl a natur dros amser wedi cynhyrchu tirweddau o harddwch ac amrywiaeth mawr yn Eryri; ased cenedlaethol sy’n hanfodol i’n hunaniaeth ac i’n ‘naws am le’ a’n lles unigol.

Mae amrywiaeth a’r argraff a wnaed yn sgil gweithgareddau dynol ar dirwedd Eryri i’w gweld ym mhob man. O’r henebion carreg enigmatig o’r cyfnod cynhanesyddol a chestyll ac abatai godidog y cyfnod canoloesol, i rinweddau cyffredin a nodweddiadol fel ffiniau caeau a all yn aml fod yn rhai hen iawn.

Ond mae’r dirwedd yn fwy na dim ond golygfeydd deniadol neu’n gofnod o’r gorffennol; mae hefyd yn darparu lle i ni fyw, gweithio a chynnal ein hunain, trwy ffermio, coedwigaeth, twristiaeth ac yn y blaen, prosesau sy’n ffurfio, ac yn parhau i ffurfio’r dirwedd

Mae tirluniau a threfluniau Eryri wedi cael eu crefftio gan lawer o weithgarwch dynol o’r cyfnod Neolithig hyd heddiw. Mae ein pensaernïaeth gynhenid yn ein gwahaniaethu. Mae digwyddiadau hanesyddol, ffyrdd o fyw, traddodiadau a chredoau yn cael eu cipio ar ffurf henebion, safleoedd ac adeiladau, ym mhatrymau aneddiadau ac mewn caeau, ac mewn enwau lleoedd. Mae cysylltiadau byw â’n treftadaeth ni yn cael eu cynnal mewn arferion rheoli tir, sgiliau adeiladu traddodiadol a’r iaith sy’n parhau i gael eu hymarfer heddiw.

Mae rhai o’r llefydd mwyaf parhaol ac annwyl yn rhai a adeiladwyd fel mynegiant o gred megis y siambrau mawr claddu o’r Oes Neolithig yn Ardudwy, y crugiau enigmatig, y carneddau, y cylchoedd a’r meini hirion o’r Oes Efydd wedi’u gwasgaru ar draws ffiniau’r mynyddoedd, eglwysi canoloesol yng nghefn gwlad, a chapeli trefi a phentrefi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

>

FFEITHIAU

Mae 14 o ardaloedd cadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Eryri sydd wedi’u dynodi am eu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig, gan gynnwys deunyddiau a ddefnyddiwyd, hanes, manylion pensaernïol, tirlunio caled a meddal.