RHA RHIF.4
Ysbrydoliaeth
ar gyfer y Celfyddydau
Mae Eryri yn le sydd wedi ysbrydoli diwylliant mwyaf nodedig y genedl, sef gwerin, celfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth dylanwad sy'n parhau ar draws yr holl weithgareddau creadigol hyd heddiw.
Ar draws yr holl ddisgyblaethau creadigol, mae cwestiynau arddull ac estheteg tirlun a chynnwys wedi’u gosod yn erbyn y goblygiadau cymdeithasol a diwylliannol; Cynrychiolir yr ardal hynod o ysbrydoledig hon o Gymru wledig ar draws cyfnodau o drefoli, diwydiannu a bellach digido yn yr Oes Wybodaeth
Mae traddodiadau hynafol Cymreig o ganu gwerin a barddoniaeth wedi parhau’n gryf yn Eryri ers y dyddiau pan oedd y beirdd yn diddanu yn llysoedd y Tywysogion. Mae fersiynau modern yn cynnwys digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau a drefnwyd yn lleol fel y Sesiwn Fawr yn Nolgellau lle mae bandiau Cymreig a Cheltaidd yn perfformio ac yn rhannu gyda chynulleidfa fyd-eang.
Ysbrydolodd y golygfeydd o’n copaon nifer o feirdd Rhamantaidd Seisnig y 18fed a’r 19eg ganrif, yn enwedig Shelley a Wordsworth. Mae gwaith nifer fawr o feirdd yn adlewyrchu’r dirwedd bwerus hon, yr un mwyaf adnabyddus yng Nghymru yw Hedd Wyn, y bugail a fu farw yn Pilckem Ridge ym 1917 ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele, tra’n gwasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae’n cael ei goffáu mewn ffilm am ei fywyd, a gafodd ei henwebu am Oscar ym 1996 ac mae cartref ei blentyndod yn Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd ar agor i’r cyhoedd hefyd.
Yn yr un modd, mae topograffi trawiadol Eryri wedi dylanwadu ar feirdd modern fel y Prifardd, Myrddin ap Dafydd. Yng ngeiriau Myrddin: “Rwy’n crwydro’n rheolaidd yn y Parc, ym mhob tymor ac ym mhob math o dywydd. Mae harddwch a hanes yn cydblethu’n y golygfeydd ac nid o dan awyr las yn unig y dewch chi o hyd i ryfeddodau Eryri. Mae olion gweithgarwch dynol a chymdeithas, yn crafu byw a goroesi yn rhan enfawr o’r apêl i mi.”
>
FFEITHIAU
Enillwyd cadair yr Eisteddfod gan Hedd Wyn wedi iddo farw ac mae’r gadair yn cael ei hadnabod fel ‘Y Gadair Ddu’.
- Mae ffilmiau Hollywood wedi defnyddio lleoliadau trawiadol yn Eryri, gan gynnwys ‘Clash of the Titans,’ ‘Tomb Raider,’ ‘King Arthur’, ‘Highlander’ a llawer mwy o ffilmiau.
- mae delweddau o Eryri wedi cael eu hanfon o gwmpas y Byd ers dros 100 mlynedd.
- ‘Miliynau o Ddelweddau’ ... Mae ffotograffiaeth ddigidol wedi chwyldroi’r Byd. Yr Wyddfa yw’r mynydd yr ymwelir ag o fwyaf o bell ffordd ym Mhrydain (600,000 + o bobl y flwyddyn), ac felly mae’n debygol mai’r rhain yw’r golygfeydd sydd fwyaf tebygol o gael eu tynnu a’u rhannu fwyaf hefyd o’n holl dirweddau, felly rydym yn cymryd DEgau o filiynau o ffotograffau bob blwyddyn, ar ffonau clyfar yn bennaf...Ac mae pob camera a ffotograffydd amatur, yn cipio golygfa, golau a phersbectif ychydig yn wahanol.
- Kyffin Williams yw’r ‘dyn a beintiodd yn Gymraeg’ ac mae ei baentiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gwerthu am hyd at £50k!