- Hafan
- Iechyd a Lles
- Parcio a Thrafnidiaeth
Parcio a Thrafnidiaeth
CANLYNIAD B4
Caiff dewisiadau cynaladwy ar gyfer parcio a thrafnidiaeth eu gweithredu.

Mae’r gweithredu wedi cychwyn ar gynigion ar gyfer dull uchelgeisiol a chynaliadwy i ymdrin â pharcio a thrafnidiaeth yng ngogledd Eryri. Mae’r cynigion yn amlinellu sut allai traffic, llygredd a sŵn gel ei lleihau’n aruthrol yn yr ardal fewnol yn ystod y tymor brig, wrth wella’r profiad ymweld yn sylweddol.
Mae’r cynigion a roddir ger bron yn yr Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth ar gyfer Partneriaeth Yr Wyddfa yn cynnwys:
- Rheolaeth parcio dymhorol yn yr ‘ardal fewnol’ gydag opsiynau rhag archebu;
- Tocyn mynediad ymwelydd holl- gynhwysol fyddai’n annog defnydd o fusnesau lleol drwy brisiau gostyngedig a chynigion;
- Fflyd newydd o fysiau carbon zero;
- Trafod syniadau gyda chymunedau ar gyfer gwelliannau parcio yn y pentrefi pyrth
- Trawsnewid y ffordd mae gwybodaeth am barcio a mynediad yn cael ei gyfathrebu
- A complete overhaul of the way information about parking and access is communicated;
- Isadeiledd gwefru cerbydau trydan;
- Rheolaeth parcio ar y stryd a pharcio preswylwyr yn y pentrefi porth
- Gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, megis y rhwydwaith bysiau gwennol, cyfnewidfeydd â gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau pellter hir, gwelliannau rhwydwaith trafnidiaeth ehangach, a gwasanaethau trafnidiaeth ymatebol i’r galw o darddiad eraill
- Adolygu er gwell a gweithio gyda chyflenwyr
- Mannau parcio coetsys (bysus);
- Highways and traffic management;
- Mentrau cerdded a beicio
- Gwasanaethau cyflenwol eraill i wella profiad yr ymwelydd fel rhan o’r ethos o hyrwyddo mynediad cynaliadwy
Mae’r cynigion yma’n anelu i wneud y tirlun arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr sydd heb gar, ac yn galluogi’r rheini sy’n cyrraedd gyda char i gael mynediad i’r ardal a’i atyniadau drwy ddulliau amgen.
Mae’r adolygiad yn argymell datblygu Dull Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy a fydd yn lleihau effaith amgylcheddol ymwelwyr ar y dirwedd warchodedig, ac ar yr un pryd, lleihau’r problemau a chynyddu buddion twristiaeth i gymunedau a’r economi leol, gan wella profiad yr ymwelydd a galluogi ystod fwy amrywiol o ymwelwyr i fwynhau’r ardal. Mae gogledd Cymru ac Eryri mewn sefyllfa berffaith i ymateb i rai o’r ‘tueddiadau-enfawr’ tymor hwy mewn twristiaeth sydd a wnelo dilysrwydd, gweithgaredd ac antur, ac eco-dwristiaeth. Gyda sylfaen mewn teithio gwyrdd, byddai hyn yn gosod gogledd Cymru yn gadarn ar lwyfan y byd fel cyrchfan gynaliadwy
Mae Llywodraeth Cymru trwy Drafnidiaeth Gymru wedi cefnogi camau cychwynnol y strategaeth trwy weithio gyda Phartneriaeth Yr Wyddfa i dreialu system rhag archebu ym maes parcio Pen y Pass; gosod synwyryddion mewn meysydd parcio a chilfannau o amgylch Yr Wyddfa; cynnal ymgynghoriad cychwynnol gyda 4 cymuned porth; ail-frandio’r gwasanaeth a gwella’r rhwydwaith; cwmpasu gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio mewn dwy ardal a nodwyd gan gymunedau lleol; uwchraddio arosfannau bysiau o amgylch troed Yr Wyddfa; a chynnal ymchwiliad pellach i ofynion parcio yn y rhanbarth ehangach.
Gweler fwy yma: www.snowdonpartnership.co.uk/parcio-a-thrafnidiaeth