RH RHIF.6
HAMDDEN A DYSGU
Cyfleoedd helaeth ar gyfer hamddena, dysgu a hamdden ar gyfer pobl o bob oed a gallu.
Mae ehangder y cyfleoedd posibl i fynd allan a bod yn actif yn Eryri yn ddi-ddiwedd. Mae Gogledd Eryri yn adnabyddus am y cyfleoedd i gerdded bryniau, mynydda a dringo ac mae’n adnabyddus hefyd achos fe ddaeth timau Everest i hogi eu sgiliau dringo yma. Cafodd y dringfeydd cyntaf a gofnodwyd ym Mhrydain yn Eryri, ei gwneud gan fotanegwyr Fictoraidd a oedd yn chwilio am flodau alpaidd arctig sy’n anodd dod o hyd iddynt.
Ar wahân i’r gweithgareddau clasurol hyn, mae Eryri hefyd yn adnabyddus am gyfleoedd i fod yn egnïol ac yn anturus o fewn tirweddau gwych; o feicio mynydd a ffyrdd, rhedeg a dringo iâ i gerdded a dringo clogfeini yn y gaeaf yn ogystal ag archwilio mwyngloddiau
Rydym yn cynllunio i helpu i wneud gweithgareddau yn Eryri yn hygyrch i gymaint o bobl â phosibl. Un fenter o’r fath yw Llwybr Cylchdaith Yr Wyddfa a fydd unwaith y’i cwblheir, yn llwybr o tua 42km o amgylch godre’r Wyddfa. Bydd y llwybr cerdded yn agos at orsafoedd ar Reilffordd Ucheldir Cymru fel bod yr opsiwn i ddefnyddio’r llwybr aml-ddefnyddwyr hwn i un cyfeiriad a defnyddio trafnidiaeth arall i gwblhau’r siwrnai wrth ddod yn ôl. Bydd y llwybr yn cynnig manteision iechyd a lles i drigolion gan ddarparu dolen gyswllt ychwanegol rhwng cymunedau gwledig.
Mae Eryri wedi hen sefydlu fel un o’r cyrchfannau beicio mynydd gorau ym Mhrydain. Mae Coed y Brenin yn enwog am ei lwybrau beicio mynydd a chyfleusterau ymwelwyr o’r radd flaenaf. Mae Antur Stiniog, sydd wedi’i leoli yng nghalon Eryri, yn gartref i chwe llwybr i lawr allt a beicio rhydd Penmachno, sy’n agos at Fetws-y-Coed, yn cynnig marchogaeth naturiol drwy gydol y flwyddyn mewn coetiroedd hynafol hardd. Mae Penmachno, sy’n agos at Fetws-y-Coed, yn cynnig marchogaeth naturiol drwy gydol y flwyddyn mewn coetiroedd hynafol hardd.
Yn ogystal â gweithgareddau sy’n seiliedig ar fryniau a beiciau, mae gennym ddigonedd o chwaraeon dŵr, yn amrywio o syrffio a chaiacio môr, i arforgampau a hwylfyrddio, yn ogystal â rafftio dŵr gwyn, cerdded ceunentydd, caiacio, canŵio, rhwyf fyrddio a nofio dŵr agored. Mae Llyn Tegid yn ganolbwynt arbennig o bwysig ar gyfer chwaraeon dŵr yn y Parc Cenedlaethol.Mae gweithgareddau eraill ychydig yn fwy hamddenol, fel pysgota, yr un mor gyffrous a hygyrch gyda chronfeydd dŵr, llynnoedd, afonydd, aberoedd a glannau amrywiol sy’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd pysgota bras, plu a môr. Mae rhai o gyrsiau golff gorau ym Mhrydain hefyd yn bodoli o gwmpas y Parc,
yn enwedig y rhai enwog yn Harlech ac Aberdyfi a ddyluniwyd gan James Braid.
Yn fwy diweddar o gwmpas Eryri mae gweithgareddau adrenalin a grëwyd gan ddyn, yn amrywio o ZipWorld i gampwaith peirianneg anhygoel a wnaed gan ddyn yn Surf Snowdonia – lagŵn syrffio mewndirol. Mae’r safleoedd hyn yn defnyddio tirwedd diwydiannol hanesyddol ar ffiniau’r Parc Cenedlaethol.
>
Mae gan Barc Cenedlaethol Eryri 1497 milltir o lwybrau cyhoeddus.
- Ar ddiwrnod clir ar ben Yr Wyddfa efallai y gwelwch 18 llyn, 14 copa, Iwerddon, Ynys Manaw a hyd yn oed Ardal y Llynnoedd.
- Sefydlodd Coed y Brenin ei enw yn y 1990au fel canolfan feicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain ... mae llawer o BOBL eraill hefyd yn awr yn dod i fwynhau gweithgareddau fel cerdded, rhedeg llwybrau, cyfeiriannu a geogelcu
- Fe enwodd Croeso Cymru Lyn Trawsfynydd fel un o bum llyn pysgota gorau Cymru.