> AMDAN CYNLLUN ERYRI

Mae’r Cynllun Rheoli hwn yn cyflwyno ein gweledigaeth hirdymor ac yn mynegi yr hyn a ystyriwn fel ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Ei bwrpas yw amlinellu sut y byddwn ni a’n Partneriaid gyda’n gilydd yn gofalu am, a datblygu’r ardal, yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gynllun sy’n rhychwantu ein hamgylchedd, sut mae pobl yn cael mynhâd ohoni, a sut mae sicrhau bod pobl leol yn cael y gorau o fyw mewn Parc Cenedlaethol.

Mae Eryri yn lle eithriadol a mae lle i bawb ohonom ymfalchio ynddo. Am y rhesymau hynny mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi mynd ati mewn ffordd wahanol i’r gorffennol yn y modd y mae wedi rhoi’r cynllun at ei gilydd. Gan gydnabod y realiti gwleidyddol rydyn ni’n byw ynddo a’r dyfodol ansicr o’n blaenau, mae partneriaeth gref wedi’i ffurfio trwy Fforwn Eryri. Mae’r Fforwm – a’r gwaith ymgynghori trwyadl ar y hyd y daith o baratoi’r cynllun – wedi rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb mewn gofalu am y Parc Cenedlaethol, i greu’r cynllun gorau posib ar gyfer yr hyn rydym am ei gyflawni.