Gwirfoddolwyr Caru Eryri

CANLYNIAD A1

Cyflawnir egwyddorion Twristiaeth Gynaliadwy

CANLYNIAD A5

Cymunedau, busnesau ac ymwelwyr yn chwarae rhan weithredol mewn gwarchod tirweddau, cynefinoedd, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol

Caru Eryri volunteers

Rhaglen wirfoddoli yw cynllun Caru Eryri sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedlaeth Genedlaethol. Nod y cynllun yw helpu i reoli’r effaith y mae nifer cynyddol o ymwelwyr yn ei chael yn y Parc Cenedlaethol. . Trefnir casglu sbwriel ar draws y Parc Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar y llwybrau prysuraf, sy’n cynnwys, holl brif lwybrau’r Wyddfa, Ogwen, Cader Idris, a Llyn Tegid. Gall gwirfoddolwyr ymuno â’r shifft gwirfoddoli gan ddefnyddio ei’n system ar-lein. Mae yna shifftiau yn cael ei drefnu bob dydd Mercher, Gwener, Sadwrn a Sul. Dros haf 2021, treuliodd gwirfoddolwyr 134 diwrnod yn gofalu am Eryri a chasglu 1033kg o sbwriel. Cyflawniad enfawr rydym yn hynod o ddiolchgar amdano. Mae’r cynllun yn parhau yn 2022, gan gynnwys diwrnodau gwaith cadwraeth.