- Hafan
- Amgylchedd
- Y diweddaraf am Awyr Dywyll
Y diweddaraf am Awyr Dywyll
CANLYNIAD A2
Yn ystod y cyfnod clo, cynhaliwyd raglen lawn o ddigwyddiadau ar-lein, yn amrywio o archeoleg a sêr i effeithiau llygredd golau ar ein bywyd gwyllt.

Mynychodd cannoedd o bobl, gyda nifer yn ymuno ar draws y byd! Ymunodd aelodau o’r gynulleidfa o lefydd mor bell â Chanada, Tasmania a Seland Newydd, sy’n cadarnhau ein henw da fel un o’r ardaloedd Awyr Dywyll gorau yn y byd!
Rhan fawr o gadw ein hawyr yn dywyll ac i ddal gafael ar ein statws ‘Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol’ yw monitro’r tywyllwch. Rydym angen cadw cofnod o’r tywyllwch er mwyn sicrhau nad yw’r llygredd golau yn cynyddu ond mewn gwirionedd yn lleihau. Mae rhan fawr o waith ôl-osod wedi ei gwblhau. Mae Plas y Brenin yng Nghapel Curig wedi bod yn ffynhonnell adnabyddedig o lygredd golau ers blynyddoedd bellach, gyda hanesion o’r rhai oedd yn ymarfer mordwyo yn y nos yn ‘twyllo’ drwy arwain eu hunain i’r mynyddoedd drwy ddilyn goleuadau’r ganolfan. Fel Canolfan Awyr Agored, mae’n lleoliad proffil uchel gydag ymwelwyr yn dod ar draws y wlad. Roedd Plas y Brenin eisiau lleihau eu hallyriadau carbon ac yn awyddus i leihau eu heffaith ar fioamrywiaeth y Parc. Bu i ni gydweithio gyda chwmni dylunio golau Dark Source i greu cynllun golau a fyddai’n arddangos ein golau awyr dywyll. Newidiwyd y goleuadau i gyd i gydymffurfio a’r awyr dywyll drwy wyro’r goleuadau am i lawr, eu cysgodi’n llawn, a’u bod yn mesur tymheredd o 2700 Kelvin. Nid yw’r ganolfan bellach yn llygru golau gyda goleuadau mwy diogel ar gyfer eu cwsmeriaid sy’n eu galluogi i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch y safle yn y nos. Mae ystlumod a rhywogaethau’r nos eraill wedi dychwelyd i ardaloedd o amgylch y ganolfan yn barod gan nad yw’r golau yn cael effaith arnynt, ac mae’r Llwybr Llaethog i’w weld yn glir i unrhyw un sydd yn eistedd ar y gadair uwch law Llynnau Mymbyr. Nid yn unig fod y safle yn fwy diogel i ymwelwyr, mae hefyd yn fwy diogel i ddefnyddwyr y ffordd gan nad ydynt yn cael eu dallu gan oleuadau gwael wrth yrru drwy Gapel Curig. Mae’r newidiadau hyn wedi arbed miloedd y flwyddyn mewn biliau trydan i’r ganolfan a hefyd wedi gwneud arbedion syfrdanol o ddwy dunnell o CO2 y flwyddyn. Mae wedi gwella eu hôl troed carbon yn aruthrol gan leihau effaith y busnes hwn ar y Parc Cenedlaethol.
Mae ein Harsyllfa symudol yn bellach yn cynnwys yr holl offer ac yn barod i fynd! Rydym eisoes wedi cael nosweithiau anhygoel o wylio’r sêr, gyda sesiwn ddiolch i’n wardeiniaid gwirfoddol oedd yn llwyddiant mawr ger Llyn Conwy. Mae ein fan yn hawdd i’w adnabod felly cadwch olwg amdano o gwmpas Eryri!
Gweler mwy yma: www.discoveryinthedark.wales/cym/project-nos