- Hafan
- Cymunedau a'r Economi
- Iaith, diwylliant a threftadaeth Eryri
Iaith, diwylliant a threftadaeth Eryri
CANLYDIAD C1
Iaith, diwylliant a threftadaeth Eryri yn cael eu dathlu, eu cefnogi a’u cryfhau.

Ymysg cestyll, plastai a henebion sydd yn dapestri ar draws tirwedd Eryri, gwelwn fflyd o furddunnod ffermydd a’u hanesion yn angof i lawer ohonom heddiw. Ym mhrosiect Treftadaeth Harlech ac Ardudwy o 2019 i 2022 byddwn yn dadorchuddio a dathlu treftadaeth ddiwylliannol yr adfeilion hyn, ynghyd a chefnogi perchnogion adeiladau busnes yn nhref Harlech i wneud gwaith cadwraethol ar du allan eu hadeiladau. Bydd yr holl ddeunydd a chasglwyd yn ystod y prosiect yn cael ei gadw a’i ddangos yn ddigidol gan yr Awdurdod a phartneriaid y prosiect; Ymddiriedolaeth Gwynedd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad y Werin a Cadw.
Hanesion y labrwyr a’r tlawd a cheir o lawer o’r murddunnod sydd i’w ddarganfod ar draws Ardudwy, a’u straeon yn enghreifftiau o fywyd cefn gwlad Cymru’r gorffennol. Ond mae yna wersi i ni heddiw wrth ddadorchuddio’r gorffennol o fyw yn gynaliadwy, sgiliau traddodiadol a defnydd y tir. Mae’r iaith a diwylliant wedi’i wehyddu yn nhraddodiadau’r teuluoedd oedd yn byw, a dal yn byw, yn yr ardal ac yn enwau’r lleoedd sydd i’w clywed ar draws y dirwedd. Mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn rhan o enaid Eryri ac mae’r prosiect hon yn profi bod yna chyfoeth dal i’w ddarganfod.