- Hafan
- Iechyd a Lles
- Trampers i’w llogi
Trampers i’w llogi
CANLYNIAD B2
Gall preswylwyr ac ymwelwyr ddefnyddio amrywiaeth o lwybrau yn y Parc Cenedlaethol gyda golwg ar wella iechyd y corff a’r meddwl

Gan weithio mewn partneriaeth â busnes lleol, cynigir Trampers i’w llogi mewn gwahanol rannau o’r Parc Cenedlaethol. Mae’r Tramper yn sgwter symudedd addas ar gyfer pob tirwedd wedi’i ddylunio’n arbennig, gellir ei ddefnyddio oddi ar y ffordd a hyd yn oed ar dir garw, mwd a glaswellt. Mae’n gadarn iawn, mae’r dull llywio yn ysgafn ac yn gywir ac mae’r daliant (suspension) wedi’I deilwra, gan ei gwneud hi’n hawdd ei drin ac yn gyffyrddus i reidio arno. Mae’n galluogi pobl sydd â nam symudedd i brofi cefn gwlad; ac i fynd gyda ffrindiau a theulu pan fyddant yn mynd allan i gerdded.
Llogi’r Tramper – Mae’r Tramper ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd cerdded oherwydd nam symudedd. Cyn i chi ddefnyddio’r Tramper bydd angen i chi ddod i gael sesiwn ymgyfarwyddo er mwyn gwybod sut i ddefnyddio’r cerbyd hwn, a bydd hynny’n cynnwys sesiwn friffio ar ddiogelwch ac yn bwysicach fyth, cewch ei yrru gydag aelod o staff wrth law wrth i chi gael y profiad cyntaf. Y nod yw i chi deimlo’n ddiogel ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r Tramper cyn i chi fynd ag o allan am reid eich hun.
Mae gennym ni ddau o’r trampers ar gael i’w llogi. Mae un wedi’i leoli yng Nghoedwig Beddgelert ac mae un wedi’i leoli yn Nolgellau. Gellir eu cludo i leoliad o ddewis o’r llwybrau hygyrch sy’n cael eu hyrwyddo ar wefan APCE. O safle Coedwig Beddgelert gallwch fynd â’r tramper ar hyd Lôn Gwyrfai ar ochr orllewinol yr Wyddfa sy’n mynd o Rhyd Ddu i Beddgelert ‘oddi ar y ffordd’. Mae hwn yn llwybr hyfryd iawn. Mae Llwybr Mawddach y gellir ei gyrraedd yn hawdd o Ddolgellau neu Abermaw yn ddarn 9 milltir gwych o hen reilffordd, a ystyrir yn un o’r llwybrau hygyrch gorau ym Mhrydain ar gyfer pob gallu.
Ble bynnag y byddwch yn ffansio mynd â’r tramper am daith, bydd aelod o staff ar gael i’ch cynghori ar lwybrau addas a threfnu’r logisteg i chi gael mynediad i fwynhau’r Parc Cenedlaethol.
Nid ydym yn codi tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd, ond mae croeso mawr i unrhyw rodd i’r Parc Cenedlaethol.